Sue Peace - Brain Gym®Cymru
Brain Gym®
Brain Gym®
yn mynd i’r afael â nodweddion ag elfennau corfforol sy’n
dylanwadau ar y broses o ddysgu - y gweledol, y clywedol,
sgiliau echddygol manwl ac osgo. Mae’r rhain yn sgiliau y mae’r
rhan fwyaf o addysgwyr yn eu hanwybyddu’n llwyr.” Mae honiadau
ynglŷn â manteision Brain Gym® yn seiliedig ar gynnydd a welwyd
mewn nifer fawr o blant. I weld ymchwil diweddaraf Brain Gym®
ewch i www.braingym.org.uk
Sue Peace

Mae Sue yn
gweithio yn broffesiynol fel athrawes ac ymgynghorydd Brain
Gym® yn helpu myfyrwyr ac oedolion i gyrraedd eu potensial
dysgu.
Mae
hi’n hyfforddwr Brain Gym trwyddedig. Mae gan Sue cymhwyster
SpLDPAC (Tystysgrif Anawsterau Dysgu Penodol ac Asesu
Ymarferol gyda PATOSS (Sefydliad Athrawon Addysg Arbennig
Broffesiynol ). Hefyd mae gan Sue gymhwyster AMBDA gan
Sefydliad Dyslecsia Prydeinig.
Mae Sue yn aelod
proffesiynol o’r Sefydliad Cinesioleg Prydeinig a’r Sefydliad
Cinesioleg Addysgol y
Deyrnas Unedig.
Dyscalcwlia,
dyspracsia a dyslecsia yw ei phrif ddiddordebau. Maes
ymchwil Sue yw dulliau “Symud a Dysgu” trwy system Brain
Gym®.
Ar hyn o
bryd mae hi’n datblygu dulliau i helpu myfyrwyr dyscalcwlig,
dyspracsig a dyslecsig. Astudiodd radd uwch yn y maes hwn ym
Mhrifysgol Bangor a’i chwblhau yn 2006.
Ewch i weld traethawd Sue
Mae
Sue yn athrawes brofiadol sydd wedi dysgu mathemateg yn
Awstralia ac yng Nghymru ym mhob cyfnod allweddol yn cynnwys
TGAU a Lefel A. Mae hi’n rhoi hyfforddiant mewn Cinesioleg
Addysgol(Brain Gym® ) i athrawon,
cynorthyddion y dosbarth, gweithwyr proffesiynol eraill a
rhieni ac yn gweithio fel ymgynghorydd
preifat.
Hi yw cynllunydd y rhaglen Symud Rhifedd ar gyfer
rhai
ydd ag anawsterau penodol
Mathemategol.
Cyhoeddwyd erthygl “An
Educational Kinesiology Approach to Dyscalculia” gan Sue ym
mwletin PATOSS, Mehefin 2007.
|