English

brain gym walesBrainGym® Cymru - dysgu drwy symud

 

Brain Gym® 101 Cwrs -  4 diwrnod 

Brain Gym® cwrs i wella dysgu drwy hwyluso integreiddio wrth ddefnyddio symudiadau Cinesioleg arbenigol a manwl. Darganfyddwch:

  • Ddulliau sydd yn hyrwyddo ac yn galluogi dysgu i ddigwydd yn naturiol ac yn effeithiol
  • Dechnegau i reoli straen ynoch eich hunain neu ym mhobl eraill
  • Wybodaeth werthfawr ynglŷn â sut i helpu’r rhai sydd efo sialensiau dysgu fel dyslecsia, dyspracsia, ADHD, sialensiau ymddygiad, straen, lletchwithdod, problemau cofio
  • Bydd y cwrs yn cynnwys 26 ymarfer Brain Gym®, Ailbatrymu a’r broses 5 cam

Mae’r cwrs yn addas i athrawon, cymorthyddion dosbarth, rhieni ac eraill sydd yn gweithio ym myd addysg, perfformwyr, pobl ym maes chwaraeon proffesiynol a’r rheiny sydd yn gweithio ym myd busnes.

Mae’r cwrs yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn yr effaith gadarnhaol a gaiff cydweithio effeithiol rhwng y corff a’r ymennydd.